Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad: CLA(4)-13-11 : 28 Tachwedd 2011
Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiadau a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA58 - Rheoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed ar:1 Tachwedd 2011
Fe’u gosodwyd ar:14 Tachwedd 2011
Yn dod i rym ar:5 Rhagfyr 2011
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA57 - The Crime and Disorder (Formulation and Implementation of Strategy) (Wales) (Amendment) Regulations 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Fe’u gwnaed ar:6 Tachwedd 2011
Fe’u gosodwyd gerbron y Senedd ar: 14 Tachwedd 2011.
Fe’u gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: 14 Tachwedd 2011.
Yn dod i rym ar:5 Rhagfyr 2011
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
CLA59 – Rheoliadau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’u gwnaed ar:2011
Fe’u gosodwyd ar:heb ei nodi
Yn dod i rym ar:1 Ionawr 2012
CLA60 - Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Fe’i gwnaed ar:heb ei nodi
Fe’i gosodwyd ar:heb ei nodi
Yn dod i rym ar:31 Ionawr 2012
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiadau hyn o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Ceir copi ohonynt yn Atodiadau 1 i 3.
Busnes arall
Gohebiaeth y Pwyllgor
CLA46 - Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 18 Hydref 2011 ynghylch rhinweddau Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011.
Ystyried ymchwiliadau’r Pwyllgor ar gyfer y dyfodol
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Awdurdodaeth Cymru?
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth annibynnol i Gymru. Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2011
Atodiad 1
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-13-11)
CLA57
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: The Crime and Disorder (Formulation and Implementation of Strategy) (Wales) (Amendment) Regulations 2011
Y weithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer symleiddio’r darpariaethau sy’n ymwneud â grwpiau strategaeth a pharatoi strategaethau yn The Crime and Disorder (Formulation and Implementation of Strategy) (Wales) (Amendment) Regulations 2007 o 5 Rhagfyr 2011.
Craffu Technegol
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Mae’n ofynnol gwneud y Gorchymyn ar y cyd gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol yn ôl adran 6(9) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Felly caiff ei osod gerbron Senedd y DU, ac o’r herwydd, mae wedi’i baratoi yn Saesneg yn unig.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg]
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) (Diwygio) 2011
Fel y nodir yn yr adroddiad, paratowyd y rheoliadau diwygio hyn yn uniaith Saesneg. Yr arfer yw paratoi offerynnau statudol yn uniaith Saesneg lle bo’r offerynnau yn offerynnau ar y cyd a lle y bwriedir eu gosod yn y Senedd. Dyna paham y cafodd y Rheoliadau sydd i’w diwygio, hy y rhai a wnaed yn 2007, eu paratoi hefyd yn uniaith Saesneg.
Atodiad 2
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-13-11)
CLA59
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae'r Rheoliadau hyn a wnaed o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010:-
· yn gymwys i Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;
· yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru ac Awdurdodau Lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n dangos sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt; ac
· yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori wrth baratoi strategaethau, cynnwys strategaethau, darparu gwybodaeth a chyngor priodol, ymgynghori â gofalwyr neu bersonau y gofelir amdanynt, cyflwyno strategaethau drafft i Weinidogion Cymru, a pharatoi strategaethau ar y cyd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
(1) Y Rheoliadau hyn yw’r rhai cyntaf i’w gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad].
(2) Mae Rheoliad 9(7) yn datgan bod yn rhaid cyhoeddi strategaeth y Gofalwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg “oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny”.
Ar sail y darpariaethau manwl yn y Rheoliadau ynghylch paratoi’r strategaethau, a bod bwriad i strategaethau o’r fath gwmpasu cyfnod o dair blynedd, nid yw’n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau lle na fyddai’n rhesymol ymarferol i’w cyhoeddi’n ddwyieithog.
Ar ben hynny, mae’r cymhwyster yn Rheoliadau 9(7) yn mynd yn groes i’r egwyddor a nodir yn adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n datgan:-
“(1) The English and Welsh texts of—
(a) any Assembly Measure or Act of the Assembly which is in both English and Welsh when it is enacted, or
(b) any subordinate legislation which is in both English and Welsh when it is made,
are to be treated for all purposes as being of equal standing”.
Yr egwyddor yw bod y testunau ond yn gyfartal os cânt eu deddfu neu eu gwneud yn ddwyieithog. Er bod y rheoliadau presennol yn ymwneud â strategaethau yn hytrach na deddfwriaeth, oni bai bod y drafft a gyflwynir i’w gymeradwyo (o dan reoliad9(3)) neu welliant (o dan rheoliad 9(6)) a gyflwynir yn ddwyieithog, bydd y drafft a gymeradwyir yn ffurfio’r strategaeth, a bydd unrhyw gyfieithiad yn union hynny.
[Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011
Craffu ar sail rhagoriaethau
Ni chynigir ymateb i'r sylw mai'r Rheoliadau hyn yw'r rhai cyntaf i'w gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
O ran mater yr iaith, mae adroddiad drafft y Pwyllgor yn tanlinellu bod yn rhaid i awdurdodau gyhoeddi Strategaethau yn Saesneg ac yn y Gymraeg “oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny”.
Mae'r adroddiad yn nodi nad yw hyn yn gyson â'r gofyniad bod deddfwriaeth yn cael ei gwneud yn ddwyieithog, y mae adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gymwys iddi. Yn achos deddfwriaeth, mae methiant i sicrhau bod deddfiad yng Nghymru yn cael ei basio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn golygu pe bai'r deddfiad yn cael ei gyfieithu'n ddiweddarach i ail iaith, ni fyddai gan y testun yn yr ail iaith statws cyfartal â'r testun yn yr iaith y pasiwyd y deddfiad ynddi.
Gan nad yw'r strategaethau sydd i'w llunio gan “awdurdodau dynodedig” yn ddeddfwriaeth, a heb fod yn un o'r deddfiadau a grybwyllir yn adran 156, ni fyddent, beth bynnag, yn achub mantais o effaith yr adran honno.
Adran 156 yw'r ddarpariaeth sy'n rhoi effaith i'r egwyddor, pan fydd deddfwriaeth yn cael ei phasio yn y Gymraeg a'r Saesneg, yna mae'r ddau destun yn gyfartal eu statws. Nid yw'n gosod egwyddor bod yn rhaid i ddeddfwriaeth sy'n gwneud cyhoeddi dogfennau gan awdurdodau cyhoeddus yn ofynnol gynnwys gofyniad eu bod yn cael eu llunio yn y Gymraeg a'r Saesneg drwy broses sy'n gwarantu statws cyfartal i'r ddwy iaith.
Mae pob un o'r awdurdodau cyhoeddus yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ddyletswydd o gael Cynllun Iaith Gymraeg o dan adran 5 o Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd angen iddynt roi sylw i ofynion eu cynlluniau hwy eu hunain.
Mae'r adroddiad drafft yn nodi, oherwydd natur y strategaeth, nad yw'n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau na fyddai'n rhesymol ymarferol i gyhoeddi'r strategaeth yn ddwyieithog ynddynt. Cytunir bod amgylchiadau pan na fyddai'n rhesymol ymarferol i gyhoeddi'r strategaeth yn ddwyieithog yn debygol o fod yn brin iawn.
Atodiad 3
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-13-11)
CLA60
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn diwygio adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) fel y mae’n gymwys i Gymru. Bwriad Llywodraeth Cymru yw cychwyn adrannau 61A i 61D o’r Ddeddf (a fewnosodwyd gan adrannau 40 a 41 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) er mwyn galluogi awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno gorchmynion datblygu lleol, ar ôl ymgynghori, fel y nodir mewn gorchymyn datblygu lleol. Mae adran 107 o’r Ddeddf yn darparu bod iawndal yn daladwy pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd gan awdurdod cynllunio lleol yn cael ei ddirymu neu ei addasu ar ôl hynny. Mae adran 108 o’r Ddeddf yn estyn yr hawl i gael iawndal i amgylchiadau pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu yn cael ei dynnu'n ôl. Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn estyn yr hawl i gael iawndal i amgylchiadau penodol pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu’n ôl ac mae’n cyfyngu mewn amgylchiadau eraill yr hawl i iawndal os bydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu’n ôl. Mae diwygiad pellach yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu materion penodol mewn perthynas â’r hawl i gael iawndal.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn – ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Mae’r Gorchymyn drafft hwn yn ffurfio rhan o gyfres o offerynnau. Mae paragraff 3.3 o’r memorandwn esboniadol yn nodi:-
Further instruments subject to negative procedure will be made in due course and laid before the National Assembly for Wales giving full effect to provisions relating to local development orders and in exercise of powers conferred by section 108 of the 1990 Act, as amended by this instrument.
Er bod yr offeryn hwn yn darparu ar gyfer trefniadau iawndal pan fydd caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl yn unig, mae gorchmynion datblygu lleol yn ychwanegiad newydd i’r system rheoli datblygu newydd. Mae gorchymyn datblygu lleol yn orchymyn a wneir gan awdurdod cynllunio lleol a ddefnyddir i roi hawliau datblygu a ganiateir (ee lleihau’r angen i gael caniatâd cynllunio) – yn ychwanegol at y rhai a roddir yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru – i fathau penodol o ddatblygiadau (sydd wedi’u nodi yn y gorchymyn) o fewn ardaloedd penodol (sydd hefyd wedi’u nodi yn y gorchymyn).
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2011